Siarter Dysgwyr

Mae Dysgu i Oedolion Caerdydd yn gwerthfawrogi ein dysgwyr fel unigolion ac yn eu hannog i gyfrannu at ein rhaglen Dysgu ar gyfer
Gwaith.

Rydym yn rhoi dysgwyr wrth wraidd y broses ddysgu, gan ddefnyddio’r egwyddorion a amlinellir yn y ddogfen ‘Dysgu Oedolion yng Nghymru 2017‘.

Rydym yn sicrhau bod ein cyrsiau’n cadw at weithdrefnau diogelu a Pholisi Cyfle Cyfartal Cyngor Caerdydd, ac rydym yn dilyn y r holl
ganllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer pob cwrs a lleoliad. Cyn pob Sesiwn Hyfforddi, bydd yr hyfforddwyr yn rhoi gwybod i’r dysgwyr
am y canllawiau iechyd a diogelwch y dylent fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae Dysgu i Oedolion Caerdydd wedi ymrwymo i sicrhau’r gorau i’n dysgwyr.
Rydym yn addo:

  • Eich trin â pharch a heb wahaniaethu.
  • Rhoi gwybodaeth glir a pherthnasol i chi am ein cyrsiau.
  • Gwneud addasiadau rhesymol sy’n eich galluogi i fanteisio ar ddysgu a sicrhau y rhoddir y gefnogaeth gywir i chi.
  • Cynnig amgylchedd dysgu croesawgar a diogel.
  • Rhoi adnoddau a deunyddiau dysgu o ansawdd da.
  • Cyflwyno cyrsiau ar lefel achredu briodol.
  • Darparu ar gyfer pob arddull ac angen dysgu.
  • Sicrhau hyfforddwyr gwybodus a chymwys ar gyfer pob cwrs.
  • Rhoi adborth adeiladol i chi i’ch helpu i wella eich sgiliau a’ch gwybodaeth.
  • Rhoi cyngor ar lwybrau dilyniant drwy eich cyfeirio at ddysgu pellach gyda’n sefydliadau partner a’r Gwasanaeth Cyngor i
    Mewn i Waith.
  • Gwrando ar eich sylwadau, eich canmoliaeth, eich pryderon a’ch cwynion a rhoi gwybod i chi am unrhyw gamau gweithredu
    a gymerwyd.
  • Diogelu eich gwybodaeth bersonol.
  • Sicrhau bod ein darpariaeth yn bodloni Safonau’r Gymraeg.
  • Sicrhau bod ein darpariaeth yn ymwreiddio Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd eang ym mhob
    rhaglen dysgu.

Wrth gwblhau cwrs gyda Dysgu i Oedolion Caerdydd, mae’n bwysig parchu’r hyfforddwr, eich cyd ddysgwyr a’r cyfleuster sy’n cael ei ddefnyddio. Gofynnwn i bob dysgwr:

  • Gyrraedd yn brydlon a chysylltu â ni os byddwch yn hwyr.
  • Gallai cyrraedd yn hwyrach na 15 munud ar ôl yr amser dechrau y cytunwyd arno effeithio ar eich gallu i gymryd rhan yn y
    cwrs. Rydym yn deall y gall hyn ddigwydd felly bydd croeso i chi gofrestru ar y cwrs nesaf a fydd ar gael.
  • Rhoi gwybod i ni os na allwch fod yn bresennol mewn sesiwn.
  • Cadw ffonau a dyfeisiau symudol wedi’u diffodd yn ystod y sesiynau. Rydym yn deall bod angen ateb rhai galwadau felly
    rhowch wybod i’ch hyfforddwr a gadael yr ystafell cyn ateb.
  • Trin staff a chyd ddysgwyr gyda chwrteisi a pharch beth bynnag yw eu diwylliant, eu gallu, eu hanabledd, eu hil, eu crefydd,
    eu rhyw, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoedran neu eu dosbarth cymdeithasol. Ni fydd ymddygiad sy’n cam drin neu’n bygwth
    pobl eraill yn cael ei oddef a gallai effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs.
  • Cadw at gyngor a gweithdrefnau iechyd a diogelwch a roddir gan eich hyfforddwr.
  • Defnyddio offer digidol yn ddiogel ac yn briodol.
  • Siarad â’ch hyfforddwr ynglŷn â’ch cynnydd ac unrhyw beth a allai effeithio ar eich dysgu. Mae gennym lawer o gefnogaeth ar gael i ddarparu ar gyfer pob dysgwr.
  • Cwblhau eich llyfr gwaith a/neu weithgareddau i’r safon sy’n ofynnol i gyflawni’r achrediad.

Mae angen cadw lle ymlaen llaw ar gyfer pob cwrs. Mae gan lawer o gyrsiau nifer cyfyngedig o leoedd ar gael ac rydym yn gweithredu
rhestrau aros. Ni fydd ein hyfforddwyr yn gallu caniatáu i chi gwblhau cwrs os nad ydych ar y gofrestr mynychwyr.

Sicrhewch eich bod yn mynychu pob sesiwn cwrs. Gall methu â gwneud hynny effeithio ar eich gallu i gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus
a chael achrediad.

Rydym yn deall ac yn gwerthfawrogi bod amgylchiadau’n newid, a allai effeithio ar eich gallu i gwblhau cwrs. Os ydych wedi cofrestru
ar gwrs ond nad ydych yn gallu mynychu mwyach, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gellir rhoi eich lle i ddysgwr arall.