Cwrs Dysgu am Oes

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd yn parhau i gynnig cyfleoedd dysgu newydd a chyffrousi oedolion ledled Caerdydd.

Caiff cyrsiau eu cynnal mewn hybiau a lleoliadau ledled y ddinas yn ogystal ag ar-lein. Mae cost cwrs yn amrywio yn dibynnu ar fath a hyd y cwrs a ph’un a ydych chi’n gymwys i gael consesiynau.

Mae ein cyrsiau yn addas i ddysgwyr 16 oed a hŷn fel rhan o Ymrwymiad Cyngor Caerdydd i ddarparu cyfleoedd addysg i bawb.

Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau ieuenctid i’r rhai rhwng 5 ac 16 oed.

Cymerwch olwg ar ein hamrywiaeth o bynciau

Ymwadiad

Er mwyn sicrhau safon ein darpariaeth rydym yn cadw’r hawl i ganslo neu newid cyrsiau pan fo angen, yn enwedig pan fo’r nifer sy’n cofrestru yn brin sy’n golygu nad yw cynnal y cwrs yn ymarferol mwyach. Dan y fath amgylchiadau, a phan fo’n bosib, byddwn yn cynnig darpariaeth arall.

Asesu darpariaeth Addysg i Oedolion yn Gymraeg neu Saesneg

Yn 2016 gwnaethom ofyn i bobl yng Nghaerdydd beth fyddai’n well ganddynt o ran Dysgu Cymunedol i Oedolion yn Gymraeg: Ask Cardiff Residents Survey 2016.

Dangosodd mwyafrif y dysgwyr a holwyd fod yn well ganddynt gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg.

Yn dilyn yr arolwg hwn rydym wedi monitro nifer y dysgwyr sydd wedi dewis yr opsiwn i bob cwrs gael ei gyflwyno yn Gymraeg. Pan fydd mwyafrif y dysgwyr mewn dosbarth yn gwneud y dewis hwn, byddwn yn darparu’r dosbarth yn Gymraeg, neu os oes gennym ddigon o ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg i greu dosbarth ar wahân, byddwn yn ystyried yr opsiwn hwn hefyd.

Mae ein cyrsiau Dysgu am Oes yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ar hyn o bryd. Mae rhai cyrsiau Dysgu i Weithio yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg

Fel rhan o’r Bartneriaeth Dysgu Cymunedol Caerdydd a’r Fro, mae ein partner, Menter Caerdydd, yn cynnig rhaglen wych o gyrsiau a gweithgareddau trwy’r Gymraeg.

Mae’r Cyngor helpu dysgwyr i ddilyn cyrsiau yn y Gymraeg a Saesneg, a phetai digon o alw am gyrsiau yn y dyfodol.