Gwirfoddoli gyda Dysgu i Oedolion

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o fagu hyder, cwrdd â phobl newydd, helpu eich gymuned, a dysgu sgiliau newydd.  Gall unrhyw un dros 16 oed wirfoddoli gyda ni.

Mae ein cyfleoedd gwirfoddoli yn cynnwys:

Dysgu Oedolion
Cymraeg Logo

Gweithio’n agos gyda thiwtoriaid i ddarparu profiad dysgu positif.

  • Helpu dysgwyr gyda thasgau ymarferol, sgiliau TGCh, sgiliau llythrennedd neu rifedd.
  • Cefnogi a hybu hyder y dysgwr.
  • Cyflawni tasgau gweinyddol ar ran y tiwtor.

Tîm Digidol

Digital Support Team logo
Cefnogi pobl i wella eu hyder digidol gyda defnyddio dyfeisiau

  • Cynorthwyo Swyddogion Hyfforddi i greu Gweithdai Digidol
  • Rhoi cymorth digidol 1-i-1 i helpu pobl i gael mynediad at Wasanaethau’r Cyngor ar-lein.
  • Cefnogi dysgwyr mewn amgylcheddau ystafell ddosbarth yn ystod Gweithdai Digidol.

Prosiect Lluosi

Prosiect Lluosi
Cefnogi’r Prosiect Lluosi i ddatblygu sgiliau rhifedd swyddogaethol pobl

  • Cynorthwyo Swyddogion Cynhwysiant Cymunedol i gyflwyno Gweithgareddau Celf a Chrefft mewn lleoliadau cymunedol.
  • Ein helpu ni i gyflwyno gweithdai Ryseitiau Rhad
  • Cynorthwyo Swyddogion Hyfforddi i gynnig Cyrsiau Rhifedd mewn amrywiaeth o leoliadau.
  • Cymorth gyda Chlybiau Gwaith Cartref Rhieni mewn Ysgolion Cynradd
  • Cefnogi Ymgeiswyr Adeiladu i ddysgu sut i ddefnyddio Tâp Mesur yn effeithiol yn yr Academi Adeiladu ar y safle.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli gyda ni, e-bostiwch gwirfoddoli@caerdydd.gov.uk neu ewch i wefan Gwirfoddoli Caerdydd i weld rhagor o gyfleoedd.

Gwirfoddoli Caerdydd