Cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith

Mae Dysgu I Oedolion Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u dylunio i unigolion i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael gafael ar gyflogaeth.

Mae unigolion 16 oed a hŷn yn gymwys i gofrestru gan gynnwys:

  • y rhai nad ydynt ar hyn o bryd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, sy’n derbyn budd-dal neu gymorth gan y wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol y wladwriaeth)
  • y rhai 50 mlwydd oed a hŷn nad ydynt mewn cyflogaeth lawn amser.

Rydym hefyd yn cynnig lle ar y cyrsiau i bobl ag ychydig neu ddim cymwysterau ffurfiol. Mae croeso hefyd i atgyfeiriadau gan sefydliadau Trydydd Sector ac elusennau sy’n cefnogi unigolion i fynd yn ôl i addysg.

Mae Dysgu Oedolion hefyd yn cynnig cefnogaeth ddigidol i’ch helpu i ddechrau arni a gall hyd yn oed fenthyg dyfais i chi os oes angen.

Cyrsiau ad hoc ar-lein

Mae Dysgu Oedolion hefyd yn darparu cyrsiau ad hoc a gyflwynir trwy Microsoft Teams sy’n cynnwys cyflwyniad dan arweiniad tiwtoriaid a sesiwn ddad-briffio ar y diwrnod olaf gyda chymorth ar gael drwyddi draw.

Mae pob cwrs yn dyfarnu e-dystysgrif gan Highfield Qualifications.

Yn anffodus, nid oes unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill.

Ymwadiad

Er mwyn sicrhau safon ein darpariaeth rydym yn cadw’r hawl i ganslo neu newid cyrsiau pan fo angen, yn enwedig pan fo’r nifer sy’n cofrestru yn brin sy’n golygu nad yw cynnal y cwrs yn ymarferol mwyach. Dan y fath amgylchiadau, a phan fo’n bosib, byddwn yn cynnig darpariaeth arall.

Asesu darpariaeth Addysg i Oedolion yn Gymraeg neu Saesneg

Yn 2016 gwnaethom ofyn i bobl yng Nghaerdydd beth fyddai’n well ganddynt o ran Dysgu Cymunedol i Oedolion yn Gymraeg: Ask Cardiff Residents Survey 2016.

Dangosodd mwyafrif y dysgwyr a holwyd fod yn well ganddynt gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg.

Yn dilyn yr arolwg hwn rydym wedi monitro nifer y dysgwyr sydd wedi dewis yr opsiwn i bob cwrs gael ei gyflwyno yn Gymraeg. Pan fydd mwyafrif y dysgwyr mewn dosbarth yn gwneud y dewis hwn, byddwn yn darparu’r dosbarth yn Gymraeg, neu os oes gennym ddigon o ddysgwyr sy’n siarad Cymraeg i greu dosbarth ar wahân, byddwn yn ystyried yr opsiwn hwn hefyd.

Mae ein cyrsiau Dysgu am Oes yn cael eu cyflwyno yn Saesneg ar hyn o bryd. Mae rhai cyrsiau Dysgu i Weithio yn cael eu cyflwyno yn Gymraeg

Fel rhan o’r Bartneriaeth Dysgu Cymunedol Caerdydd a’r Fro, mae ein partner, Menter Caerdydd, yn cynnig rhaglen wych o gyrsiau a gweithgareddau trwy’r Gymraeg.

Mae’r Cyngor helpu dysgwyr i ddilyn cyrsiau yn y Gymraeg a Saesneg, a phetai digon o alw am gyrsiau yn y dyfodol.

Hysbysiad Prefiatrwydd

Mae cymryd rhan yn ein rhaglen Dysgu ar Gyfer Gwaith yn dibynnu bod chi’n darparu data personol. Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer y wybodaeth bersonol y bydd yn ei chael.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data hwn i gyflawni’r dasg gyhoeddus o weinyddu a monitro ei harian. Bydd gwybodaeth arall yn cael ei chadw gan eich darparwr dysgu er mwyn gweinyddu’r rhaglen.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.