Multiply : Rhaglen sgiliau rhifedd

Rhaglen newydd a ariennir gan lywodraeth y DU yw Multiply i helpu oedolion i wella eu sgiliau rhifedd. Os ydych chi’n 19 oed neu’n hŷn ac nad oes gennych TGAU mathemateg gradd C (neu gyfwerth), gallwch gael mynediad at gyrsiau rhifedd am ddim trwy Multiply i fagu eich hyder gyda rhifau ac ennill cymhwyster.
Gellir cymhwyso pob sesiwn rifedd ym mywyd bob dydd, fel helpu plant gyda gwaith cartref, coginio ar gyllideb, gwneud mân waith tŷ a mwy.
Beth am brofi eich lefel gyda’n cwis rhifedd (riddle.com)
Sut i gofrestru
E-bostiwch: multiply@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 02920 871 071
Cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig
Cynnwys
- Hyfforddiant ychwanegol i oedolion ar raglen Cynorthwy-ydd Addysgu gyda Dysgu Oedolion.
- Bod yn fwy hyderus yn cefnogi disgyblion gyda’u datblygiad rhifedd.
- Ennill tystysgrif Agored Cymru – Lefel Mynediad 3 mewn datblygu gwybodaeth plentyn am rifau.
- Dysgu strategaethau a ddefnyddir mewn ystafell ddosbarth.
- Dysgu sut i gynorthwyo plant i ddysgu bondiau rhif.
- Dod yn fwy hyderus gyda dulliau adio, tynnu, lluosi a rhannu a ddefnyddir gan athrawon.
Manylion achrediad
Rhaglen Deuluol – Datblygu Gwybodaeth Plentyn am Rifau Lefel Mynediad 3 – Tystysgrif
Gwerth Credyd 2
Hyd y cwrs
Cwrs 5 wythnos
Cyfanswm: 20 awr
Cynnwys
- Darganfyddwch offer a gemau ar-lein i’ch helpu chi a’ch plentyn gyda datblygiad rhifedd.
- Ennill tystysgrif Agored Cymru – Lefel Mynediad 3 mewn datblygu gwybodaeth plentyn am rifau.
- Dysgu strategaethau a ddefnyddir mewn ysgolion.
- Dod o hyd i rai o’r offer gorau i gynorthwyo eich plant.
- Dysgu sut i ddefnyddio technoleg symudol i roi hwb i ddysgu plant.
- Dod yn fwy hyderus gyda dulliau adio, tynnu, lluosi a rhannu a ddefnyddir gan athrawon.
- Darganfod sut i nodi strategaethau dysgu eich plentyn.
Manylion achrediad
Rhaglen Deuluol – Datblygu Gwybodaeth Plentyn am Rifau Lefel Mynediad 3 – Tystysgrif
Gwerth Credyd – 2
Hyd y cwrs
Cwrs 5 wythnos
Cyfanswm: 20 awr
Cynnwys
- Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sut i ddechrau pecyn taenlen i greu taenlen.
- Ennill tystysgrif Agored Cymru.
- Dysgu sut i ddefnyddio fformiwlâu i gyfrifo.
- Gallu defnyddio swyddogaethau fformatio ar gyfer testun a rhif.
- Cadw ac enwi taenlen.
- Newid cyfeiriadedd, os oes angen, er mwyn argraffu.
Manylion achrediad
Taenlenni Lefel 1 – Tystysgrif
Gwerth Credyd – 1
Hyd y cwrs
Cwrs 5 wythnos
Cyfanswm: 20 awr
Cynnwys
- Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu sgiliau gwnïo sylfaenol
- Sut i ddefnyddio peiriant gwnïo gan greu eitemau ffabrig.
- Dod yn fwy hyderus gyda sgiliau rhifedd er enghraifft, defnyddio mesuriadau ar gyfer deunyddiau ac ardaloedd, defnyddio siapiau, cyfrifo costau.
Manylion achrediad
Sesiynau Gwnïo heb eu hachredu
Hyd y cwrs
Cwrs 10 wythnos
Cynnwys
- Yn y cwrs hwn byddwch yn dysgu’r mesuriadau sylfaenol ar dâp mesur.
- Dysgu’r gwahanol farciau mewn mesuriadau imperialaidd a metrig.
- Gallu mesur eitemau bach, ardaloedd.
- Adnabod y cymorth rhifedd sydd ei angen arnoch eich hun i’w ddefnyddio ym maes adeiladu.
Manylion achrediad
Heb ei achredu
Hyd y cwrs
Sesiynau cyflwyno 30 munud.
Cynnwys
- Yn y cwrs hwn byddwch yn archwilio llwybrau gyrfa personol
- Pennu nodau gyrfa realistig a’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen.
- Datblygu hyder a sgiliau cyfweld.
- Datblygu gwybodaeth am gyflogau ar gyfer eich nodau gyrfaol.
- Nodi llwybrau gyrfa addysgol a gweithle.
Manylion achrediad
Archwilio gyrfaoedd wedi’i achredu.
Mynediad 3
Gwerth Credyd – 2
Hyd y cwrs
Cwrs 5 wythnos
Cyfanswm: 20 awr