Iechyd a Diogelwch – Hyb y Llyfrgell Ganolog

Rhagfyr 3, 2024
Iechyd a Diogelwch - Hyb y Llyfrgell Ganolog

Dyddiad ac Amser

03/12/2024

9:30 am-4:00 pm

Gwybodaeth am y cwrs

Mae cadw gweithleoedd yn ddiogel yn ofyniad cyfreithiol a moesol, gyda chanlyniadau difrifol os na chydymffurfir â deddfau iechyd a diogelwch.

Defnyddir y Dyfarniad Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle yn eang ledled y DU i sicrhau bod staff yn cydymffurfio â gweithdrefnau a rheoliadau iechyd a diogelwch.

Fe’i cynlluniwyd i roi gwybodaeth i ddysgwyr am yr arferion iechyd a diogelwch sylfaenol sy’n hanfodol yn y gweithle.

Mae’r pynciau dan sylw yn cynnwys:

  • deall cyfrifoldebau cyflogwyr a gweithwyr;
  • deall asesiad risg a sut maen nhw’n lleihau damweiniau
  • peryglon a rheolaethau arferol mewn gweithle
  • achosion cyffredin damweiniau
  • gweithdrefnau argyfwng
  • pwysigrwydd cofnodi

 

Sut i gofrestru

Ar gyfer cofrestriadau cysylltwch â’r Llinell Gyngor: 02920 871071 intoworkadviceservice@cardiff.gov.uk

Ar gyfer ymholiadau, e-bostiwch: adultlearningquery@cardiff.gov.uk