Dysgu Beicio + Lefel 1

Ebrill 3, 2023
Dysgu Beicio + Lefel 1

Dyddiad ac Amser

03/04/2023-06/04/2023

1:00 pm-2:00 pm

Gwybodaeth am y cwrs

Yn ogystal â’r cyrsiau yn yr ysgol, cynhelir cyrsiau Hyfforddiant Beicio Safon Genedlaethol yn ystod gwyliau’r ysgol yn y Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd ym Maendy.

Mae’r cwrs yma wedi ei anelu at blant rhwng 4 a 10 oed nad ydynt yn gallu beicio.

Bydd plant yn dysgu mewn grwpiau bach er mwyn gallu cydbwyso, dechrau, stopio a gwneud i’r beic symud yn ddiogel.

Os cyflawnir hyn, byddant wedyn yn dysgu Amcanion Hyfforddiant Beicio Safonau Cenedlaethol Lefel 1.

Caiff Lefel 1 ei haddysgu a’i hasesu gan ddefnyddio cynllun ffordd hyfforddi’r Ganolfan Diogelwch ar y Ffyrdd.

Derbynnir uchafswm o 12 mynychwr ar bob cwrs.

Cymhwysedd

Unrhyw blentyn rhwng 4 a 10 oed nad yw’n gallu beicio.

Cost

Mae ffi o £20 na ellir ei ad-dalu i drefnu lle ar bob cwrs.

Beth ddylwn i ddod gyda mi i’r wers gyntaf

Beic sy’n addas i’r ffordd a helmed.  Rhaid i feiciau fod mewn cyflwr sy’n addas i’r ffordd, gyda dau frêc sy’n gweithio, teiars wedi eu chwythu a gerau sy’n gweithio (lle bo hynny’n berthnasol). Ceisiwch fod yn y lleoliad 10-15 munud yn gynnar ar Ddiwrnod 1 fel y gall ein hyfforddwyr wirio a gwneud addasiadau rhesymol i unrhyw feic.

Dŵr a byrbryd bach ar gyfer egwyl o 5 munud hanner ffordd drwy’r sesiwn.

Cynhelir y cyrsiau ym mhob tywydd bron a bod, felly efallai bydd angen dillad gwrth-ddŵr neu ddillad sbâr ac eli haul yn dibynnu ar yr adeg o’r flwyddyn. Mae angen esgidiau addas hefyd.