Cwrs Ymwybyddiaeth Tân- Hyb y Llyfrgell Ganolog
Hydref 10, 2025
Dyddiad ac Amser
10/10/2025
9:30 am-4:00 pm
Gwybodaeth am y cwrs
Cyflwyniad i ymwybyddiaeth diogelwch tân.
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar y ddyletswydd gyfreithiol a moesol i sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel rhag tân a bod gweithwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau ynghylch diogelwch tân.
Mae’r Dyfarniad Lefel 2 hwn yn yr Egwyddorion Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân (RQF) yn addas ar gyfer unrhyw weithle, lle mae angen dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch tân.
Trwy’r cymhwyster hwn, bydd dysgwyr yn deall bod diogelwch tân yn gyfrifoldeb pob unigolyn yn y gweithle.
Pynciau sydd wedi’u cynnwys: achosion cyffredin tân, camau i’w cymryd mewn achos o dân a deall sut mae risg tân yn cael ei reoli yn y gweithle.
Sut i gofrestru
Ar gyfer cofrestriadau cysylltwch â’r Llinell Gyngor: 02920 871071 neu e-bostiwch Into Work.
Ar gyfer ymholiadau e-bostiwch Adult Learning