Hysbysiad Preifatrwydd – Dysgu ar gyfer Gwaith

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn rhan o Gyngor Caerdydd, Rheolydd y Data at ddibenion casglu data.

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio’n gwefan neu’n gwasanaeth.

Mae’r holl ddata personol a gesglir yn cael ei brosesu yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn casglu’r data canlynol:

  • Rhif Adnabod dysgwr (wedi’i greu gan eich Dysgu Oedolion)
  • Cyfenw
  • Enw(au) cyntaf
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Rhywedd
  • Dyddiad geni

Yn ogystal, mae data amdanoch a ddiffinnir fel data categori arbennig.  Mae rhoi’r data hwn yn ddewisol a bydd yn cynnwys;

  • Math o anabledd
  • Cyflwr iechyd
  • Ethnigrwydd
  • Gwybodaeth Feddygol*

*Dim ond er mwyn cynnal sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a sicrhau diogelwch y dysgwr y bydd angen Gwybodaeth Feddygol.

Mwy o wybodaeth a gesglir ar gyfer cyrsiau a ariennir drwy grant:

  • Rhif adnabod dysgwr unigryw (wedi’i roi gan Lywodraeth Cymru)
  • Cyfenw yn 16 oed
  • Hunaniaeth genedlaethol
  • Gwlad breswyl
  • Rhif dysgwr unigryw (wedi’i greu gan y Gwasanaeth Cofnodion Dysgu)
  • Lefel y Gymraeg
  • Statws Cyflogaeth

Sut rydym yn casglu eich data?

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn casglu eich data personol pan fyddwch yn:

  • Cofrestru eich diddordeb yn ein gwasanaethau drwy’r llinell gymorth, ap Gwasanaeth i Mewn i Waith Caerdydd neu Swyddog y Gwasanaeth i Mewn i Waith
  • Cofrestru ar gyfer cwrs ar-lein neu’n cysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn i ddefnyddio ein gwasanaethau
  • Cwblhau arolwg cwsmeriaid yn wirfoddol neu’n rhoi adborth ar unrhyw un o’n byrddau negeseuon neu drwy e-bost
  • Defnyddio ein gwefan neu’n edrych arni trwy gwcis eich porwr

Efallai y bydd Addysg Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) hefyd yn derbyn eich data yn anuniongyrchol gan atgyfeirwyr trydydd parti yr ydych wedi rhoi caniatâd iddynt weithredu ar eich rhan at ddibenion cael hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau/Canolfan Waith
  • Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol
  • Cymdeithasau Tai
  • Unrhyw sefydliad trydydd parti arall sydd wedi cyflwyno gwybodaeth ar eich rhan i gael mynediad i gwrs

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn prosesu eich data fel y gallwch gofrestru ar gyfer cyrsiau.

Byddwn yn defnyddio eich data at y dibenion canlynol:

  • i gysylltu â chi at ddibenion cofrestru ar gyfer cwrs
  • i asesu cymhwysedd ar gyfer ein gwasanaethau
  • at ddibenion ystadegol a chyfeirio
  • i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
  • i ateb ymholiadau gennych chi ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl sy’n ymwneud â chi
  • i gynnal hyfforddiant ar gyfer ein dysgwyr
  • i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu bodloni ac y bydd cyfle cyfartal, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010
  • i roi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyrsiau a ariennir gan grant
  • at ddibenion ystadegol ac ymchwil, sy’n ein galluogi i gynnig y profiad dysgu gorau i’n defnyddwyr
  • i gynnal yr hyfforddiant rydych wedi cofrestru ar ei gyfer, yn ogystal ag unrhyw ddogfennaeth berthnasol fel tystysgrifau a thystiolaeth cwblhau

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Rhennir eich data personol â’r sefydliadau partner a restrir;

Llywodraeth Cymru

Mae gwybodaeth ystadegol yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru at ddibenion archwilio ac ariannu prosiectau.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gydag adrannau eraill yng Nghyngor Caerdydd ar gyfer gwasanaethau neu gymorth ychwanegol lle rydych wedi rhoi eich caniatâd ymlaen llaw.

Goruchwylydd Allanol:

  • Estyn

Cyrff Arholi:

  • Highfields
  • Agored Cymru
  • Signature
  • OCR
  • BCS

Darparwr SMS/E-bost

  • Gov.notify

Sut rydym yn storio eich data?

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) yn storio eich data yn ddiogel ar ein gweinyddion.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol yn unol â pholisi cadw Llywodraeth Cymru. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, gellir cadw eich data personol am hyd at 10 mlynedd ar ôl y dyddiad y gwnaethoch gwrs Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) ddiwethaf.

Ar ôl diwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu eich data drwy ei ddileu o’n systemau’n anadferadwy.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae hefyd gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) gwblhau gwybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu – Mae gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych yr hawl i ofyn i Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi.  Os hoffech arfer unrhyw un o’r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:

E-bostiwch ni yn: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Neu ysgrifennwch atom:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Ein sail gyfreithlon

Ein sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data personol yn gyffredinol fydd un neu fwy o’r canlynol:

Lle rydych wedi rhoi caniatâd i’ch data personol gael ei brosesu er mwyn derbyn hyfforddiant gan wasanaethau i Mewn i Waith.  Lle dibynnir ar eich caniatâd, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg a gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol ar YmholiadAddysgOedolion@caerdydd.gov.uk.

Mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol.

Efallai y byddwn hefyd yn prosesu eich data lle mae’n angenrheidiol at ddibenion ein buddiannau dilys fel awdurdod lleol.

Sut i gysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisi preifatrwydd Dysgu Oedolion Caerdydd (Dysgu ar gyfer Gwaith) neu’r data rydym yn ei gadw amdanoch, neu os hoffech arfer un o’ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni.

E-bostiwch ni yn: diogeludata@caerdydd.gov.uk

Neu ysgrifennwch atom yn:

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler y Polisi Preifatrwydd llawn:

Sut i gysylltu â’r awdurdod priodol

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad ydym wedi mynd i’r afael â’ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ei gwefan: Eich pryderon am wybodaeth bersonol | SCG neu drwy ffonio 0303 123 1113.

Hysbysiad Caniatâd

Drwy roi eich manylion cyswllt i ni, cofiwch y bydd aelod o staff Dysgu Oedolion Caerdydd yn cysylltu â chi. Os byddwch yn newid eich meddwl neu’n dymuno tynnu’n ôl eich caniatâd i ni gysylltu â chi, anfonwch e-bost atom yn YmholiadAddysgOedolion@caerdydd.gov.uk.