Gyrfa yn y Diwydiant Harddwch

Gall ein cwrs Gyrfa yn y Diwydiant Harddwch i ddechreuwyr gynnig y canlynol i chi: 

  • eich cyfeirio a’ch paratoi ar gyfer gyrfa,  
  • hyfforddiant ar sylweddau peryglus a chymorth cyntaf, 
  • eich paratoi ar gyfer rhifedd,  
  • cyfleoedd ymchwil,  
  • dysgu ymarferol,    
  • cymorth sgiliau digidol, ac  
  • opsiynau ar gyfer cyfleoedd hyfforddi pellach, yn amodol ar argaeledd.  

Yr hyn y gallwch ei ennill o’r cwrs  

Achrediadau:  

  • Paratoi ar gyfer Gyrfa: Lefel Mynediad 3 
  • COSHH (Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd): Lefel 2 

Hyd y cwrs   

Mae’r cwrs hwn yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.  

Lleoliad y cwrs  

Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd  

Dyddiadau’r cwrs  

Mae hwn yn gwrs treigl.  Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.  

Sut i gofrestru 

I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.   

E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk 

Ffôn:  029 2087 1071  

Woman giving a manicure