Gyrfa Mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae Academi Gofalwyr Caerdydd yn cynnal y cwrs hwn i ddechreuwyr bob pythefnos. 

Gall y cwrs Gyrfa Mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynnig: 

  • eich cyfeirio a’ch paratoi ar gyfer gyrfa,   
  • datblygu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl a dementia, 
  • hyfforddiant cymorth cyntaf a diogelwch bwyd, 
  • cipolwg ar ddiogelu oedolion agored i niwed, a 
  • sesiynau addysgiadol ar weithio yn y Sector Gofal. 

Yr hyn y gallwch ei gael o’r cwrs  

Achrediadau:  

  • Gofal: Lefel 2 
  • Cymorth Cyntaf Brys: Lefel 3 
  • Diogelwch Bwyd:  Lefel 3 
  • Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan: Lefel 3 
  • Cipolwg ar Ofal 
  • Diogelu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol  
  • Ymwybyddiaeth o Ddementia 
  • Pecyn ymwybyddiaeth Gyrfa mewn Gofal 

Hyd y cwrs   

Mae’r cwrs hwn yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.  

Lleoliad y cwrs  

Neuadd y Seiri Rhyddion Caerdydd, CF10 2HL 

Dyddiadau’r cwrs  

Mae hwn yn gwrs treigl.   Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.  

Sut i gofrestru 

I gymryd rhan yn y cwrs, bydd angen i chi anfon ffurflen atgyfeirio a CV atom. 

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan sefydliadau mewnol ac allanol. 

I ofyn am ffurflen atgyfeirio neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.  

E-bost: AcademiGofalCaerdydd@caerdydd.gov.uk   

Ffôn: 029 2087 1071  

Gallwch hefyd ofyn am ffurflen atgyfeirio yn: 

Person preparing food for an elderly male