Gyrfa Mewn Gwaith Cadw Tŷ

Gall ein cwrs Gyrfa Mewn Gwaith Cadw Tŷ i ddechreuwyr gynnig y canlynol i chi: 

  • eich cyfeirio a’ch paratoi ar gyfer gyrfa,  
  • mewnwelediad i wahanol fathau o rolau cadw tŷ, 
  • hyfforddiant ar sylweddau peryglus, 
  • datblygu gwybodaeth am rolau unigol a thîm, 
  • cymorth gyda sgiliau cyfweliad, a 
  • hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid a datrys problemau.  

Yr hyn y gallwch ei ennill o’r cwrs  

Achrediadau:  

  • Gwasanaeth Cwsmeriaid: Lefel 2 
  • COSHH (Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd): Lefel 2 
  • Codi a Chario: Lefel 2 

Hyd y cwrs   

Mae’r cwrs hwn yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.  

Lleoliad y cwrs  

Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd.  

Dyddiadau’r cwrs  

Mae hwn yn gwrs treigl. Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.  

Sut i gofrestru 

I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.   

E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk 

Ffôn: 029 2087 1071  

Woman making a bed