Gyrfa mewn ffitrwydd a hyfforddi
Gall ein cwrs Gyrfa Mewn Ffitrwydd a Hyfforddi i ddechreuwyr gynnig i chi:
- gipolwg ar sgiliau hyfforddi craidd fel cyfathrebu, cyfarwyddyd a chynllunio,
- hyfforddiant asesu risg, dylunio, trefnu, cyflwyno a monitro gweithgareddau hyfforddi diogel,
- cyflwyniadau i ddefnyddio fframweithiau ar gyfer arfer da ac ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau,
- trafodaeth ac ymarferion ymarferol ar fagu hyder a goruchwylio, a
- cyfleoedd i archwilio llwybrau dilyniant a ariennir a chymwysterau pellach, yn amodol ar gymhwysedd.
Yr hyn y gallwch ei gael o’r cwrs
Achrediadau:
- Iechyd a Diogelwch: Lefel 2
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith: Lefel 2
Hyd y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Lleoliad y cwrs
Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd.
Dyddiadau’r cwrs
Mae hwn yn gwrs treigl. Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.
Sut i gofrestru
I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071






Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae