Gweithio gyda phlant

Mae ein Academi Cynorthwywyr Addysgu I mewn i Waith yn cynnal cwrs misol ‘Addysgu Amdani’ i ddechreuwyr.  

Os ydych chi’n awyddus i weithio gyda phlant mewn lleoliad gofal plant neu gynorthwywyr addysgu, gall y cwrs hwn gynnig y canlynol am ddim: 

  • hyfforddiant,  
  • mentora, a 
  • chymorth chyflogaeth.  

Beth byddwch yn ei ennill o’r cwrs?  

Gweler y rhestr lawn o achrediadau y gallwch eu hennill trwy’r cwrs hwn.  

Dysgu craidd 

  • Cefnogi Dysgu ac Addysgu:  Lefel 2 
  • Diogelwch Bwyd:  Lefel 2  
  • Modiwl Diogelu Plant: Tystysgrif gofal   
  • Cymorth Cyntaf ar Blant: Lefel 3 

Dysgu ychwanegol 

  • Seicoleg Plant: Lefel 1 a 2   
  • Datblygu gwybodaeth plentyn am Rif:  Mynediad Lefel 3 
  • Helpu Plentyn gyda Mathemateg drwy Chwarae:  Lefel 1 
  • Cyflwyniad i Anableddau Dysgu:   Lefel 1 
  • Ymwybyddiaeth o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADCG):  Lefel 2  
  • Deall Awtistiaeth ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig: Lefel 1 
  • Cynorthwyo mewn gweithgaredd dysgu yn yr awyr agored: Lefel 1 
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn:  Lefel 1  
  • Cymorth Dysgu ac Addysgu mewn Ysgolion:  Lefel 2 
  • Creadigrwydd Digidol:  Lefel 1 
  • Helpu Plentyn i Ddatblygu Sgiliau Gwrando:  Lefel 1 
  • Helpu Plentyn i Sillafu:  Mynediad Lefel 3 

Hyd y cwrs   

Mae’r cwrs hwn yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.   

Lleoliad y Cwrs 

Yr Hen Lyfrgell, Yr Ais, Canol Dinas Caerdydd. 

Dyddiadau’r cwrs 

Mae hwn yn gwrs treigl.  Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.  

Sut i gofrestru 

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan:  

  • Sefydliadau partneriaeth fewnol   
  • Sefydliadau partneriaeth allanol 

I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, gallwch gysylltu â ni neu ymweld â ni.   

Cysylltu â ni  

E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk  

Ffôn: 029 2087 1071 

Ymweld â ni 

Dewch o hyd i ni wrth y ddesg Cynorthwywyr Addysgu ar lawr gwaelod Hyb y Llyfrgell Ganolog, 10am i 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. 

Child with modelling clay