Cychwyn Gyrfa mewn Rolau Gyrru Hunangyflogedig

Gall ein cwrs Rolau Gyrru Hunangyflogedig gynnig y canlynol i chi:

  • adeiladu sgiliau hunangyflogaeth,
  • cymorth gyda nodi rhinweddau, sgiliau, diddordebau a chyflawniadau,
  • mewnwelediadau i fathau o gyflogaeth, diogelwch, cyfrifoldebau a chostau cysylltiedig mewn rolau gyrru,
  • canllawiau penodol ar dâl, treth ac Yswiriant Gwladol,
  • gwybodaeth ymarferol a magu hyder,
  • paratoi ar gyfer gyrfa a chyfeirio at swyddi, a
  • helpu gyda’r camau nesaf i rolau hunangyflogaeth.

Bydd angen trwydded yrru lawn arnoch i gymryd rhan yn y cwrs hwn.

Yr hyn y gallwch ei gael o’r cwrs

Achrediadau:

  • Paratoi ar gyfer Gyrfa: Lefel Mynediad 3

Hyd y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn para 3 diwrnod, gan redeg rhwng 9.30am a 2.30pm.

Lleoliad y cwrs

Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd.

Dyddiadau’r cwrs

Mae hwn yn gwrs treigl. Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gyfleus i chi.

Sut i gofrestru

I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 029 2087 1071  

A driving instructor with a learner driver