Cwrs Gyrru Bysiau i Ddechreuwyr
Gall ein cwrs Gyrru Bysiau i Ddechreuwyr gynnig i chi:
- dealltwriaeth o wahanol rolau gyrru,
- hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu, o dechnegau llafar ac ysgrifenedig i ddefnyddio iaith gadarnhaol,
- mewnwelediad i sgiliau a thechnegau cyfweld,
- hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o straen,
- cyflwyniadau i iechyd a diogelwch,
- cyfeirio at gyflogwyr a chyfleoedd hyfforddi pellach.
Bydd angen trwydded yrru lawn arnoch i gymryd rhan yn y cwrs hwn.
Yr hyn y gallwch ei gael o’r cwrs
Achrediadau:
- Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith: Lefel 2
- Gwasanaeth Cwsmeriaid: Lefel 2
- Cymorth Cyntaf yn y Gwaith: Lefel 2
Hyd y cwrs
Mae’r cwrs hwn yn para 10 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener dros 2 wythnos.
Lleoliad y cwrs
Lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd.
Dyddiadau’r cwrs
Mae hwn yn gwrs treigl. Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi.
Sut i gofrestru
I gymryd rhan yn y cwrs neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
E-bost: CyngorIMewnIWaith@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 1071






Mae’r wefan hon wedi’i diogelu gan reCAPTCHA ac mae