Adeiladu Amdani

Mae ein Academi Adeiladu Ar y Safle yn cynnal y cwrs misol hwn i ddechreuwyr. 

Os ydych chi’n newydd i adeiladu neu heb weithio yn y sector yn y 12 mis blaenorol, gall y cwrs hwn gynnig hyfforddiant a chyllid ar gyfer: 

  • cymorth cyflogadwyedd,   
  • cofrestru ag asiantaeth,   
  • sgyrsiau am y diwydiant gan gontractwyr,  
  • lleoliad profiad gwaith gorfodol ar y safle,  
  • help i ddod o hyd i waith, a  
  • cyfarpar diogelu personol 5 pwynt llawn.  

Bydd y cwrs yn eich helpu i’ch paratoi ar gyfer gyrfa gynaliadwy yn y diwydiant adeiladu, gan gynnwys ardystiad gyda’r Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS).

Beth byddwch yn ei ennill o’r cwrs?  

Gweler y rhestr lawn o achrediadau y gallwch eu hennill trwy’r cwrs hwn.  

  • Sgiliau Rhifedd Lluosi  
  • Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu:  Lefel 1 
  • Codi a Chario: Lefel 2  
  • Cerdyn CSCS  

Hyd y cwrs   

Mae’r rhan hwn o’r cwrs yn yr ystafell ddosbarth yn para 5 diwrnod, yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener.   

Nid yw hyn yn cynnwys y prawf CSCS, y gallwch ei gwblhau mewn hyd at 6 wythnos ar ôl y cwrs.   

! Gall mentoriaid eich helpu gydag ymarfer yn wythnosol yn ôl yr angen nes i chi basio o leiaf 2 brawf ffug, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i’r prawf CSCS llawn.   

Mae’r holl ddiwrnodau rhwng 9:30 am a 1:30pm.  

Lleoliad y Cwrs 

Lleoliadau amrywiol o amgylch Caerdydd.  

Dyddiadau’r cwrs  

Mae hwn yn gwrs treigl a gynhelir ddwywaith y mis.  Gallwn helpu i drefnu wythnos sy’n gweithio orau i chi. 

Sut i gofrestru 

I gymryd rhan yn y cwrs, bydd angen i chi anfon ffurflen atgyfeirio a CV atom.  

Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan:  

  • Sefydliadau  
  • Unigolion 

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth neu i ofyn am ffurflen atgyfeirio:  

E-bost: AcademiAdeiladu@caerdydd.gov.uk  

Ffôn: 078 9095 9593

Cynnwys llawn y cwrs

Gweld y cynllun dyddiol ar gyfer y cwrs Adeiladu Amdani.  

 

  • Nodau’r cwrs  
  • Trosolwg o’r cwrs 
  • Disgwyliadau ymgeiswyr  
  • Asesiad llythrennedd 
  • Sesiwn cynghori budd-daliadau i incwm a enillir (Lluosi)
  • Sesiwn holi ac ateb gyda chontractwyr ar adeiladu a’r crefftau  
  • Cofrestru ar leoliad ar y safle  
  • Cymorth gyda rhwystrau i waith  
  • Cofrestru ar y cwrs a gwirio cerdyn adnabod / dychwelyd i’r gwaith
  • Arddangos amgylchedd prawf sgrin gyffwrdd CSCS 
  • Prawf ffug CSCS gyda chymorth 
  • Cymorth gyda phroblemau CSCS cyffredin 
  • Gosod yr ap prawf CSCS am ddim 
  • Sgiliau cyflogadwyedd
  • Teilwra CV
  • Cofrestru ag asiantaethau recriwtio
Person using an electric drill