Canolfan Severn Road
Mae Severn Road wrth wraidd cymuned Treganna uwchben Ysgol Gynradd Severn Road. Mae’n agos at ganol y ddinas a llwybrau bysus. Mae’r ganolfan yn haid o weithgarwch gyda chaffi cyfeillgar yn gweini diodydd a byrbrydau ysgafn. Mae grŵp gwnïo a chlonc yn cael ei gynnal yma unwaith yr wythnos. Rydyn ni hefyd yn croesawu’r grŵp FAN unwaith yr wythnos. Mae croeso i bawb ymuno â’r ddau grŵp hyn.
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau â’r nod o helpu pobl i hyfforddi, gwella sgiliau ac ennill cyflogaeth. Mae ein cyrsiau’n ymdrin ag ystod o wahanol feysydd cyflogaeth, gan gynnwys gofal plant, gofal iechyd, cyflogadwyedd digidol, gwasanaeth cwsmeriaid, sgiliau bywyd digidol a lletygarwch. Rydyn ni hefyd yn cynnig cyrsiau sy’n magu hyder, gwella sgiliau cyfathrebu ac adeiladu tîm. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda chyflogwyr ac yn cynnig cyrsiau cyn cyflogaeth gyda’r sicrwydd o gael cyfweliad.
Ymweld â Severn Road
Canolfan Dysgu i Oedolion Severn Road
Llawr Cyntaf, Ysgol Gynradd Severn Road
Severn Road
Caerdydd
CF11 9DZ
Crwydro’r lleoliad
Digwyddiadau ar ddod
Gweler hefyd: