Mae Dysgu I Oedolion Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u dylunio i unigolion i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael gafael ar gyflogaeth.
Cyrsiau Ar-Lein
Mae Dysgu I Oedolion Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg ar-lein sydd wedi’u dylunio i gefnogi unigolion i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu a’u helpu i ddysgu mwy, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael gafael ar gyflogaeth.
Cynigir y cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru am ddim i ddysgwyr, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau TG yn ogystal â chyrsiau sy’n helpu i feithrin sgiliau’r rheini sy’n edrych am waith ym maes gofal plant, lletygarwch neu fanwerthu.
Mae’r canlynol ymysg yr unigolion 16 oed neu hŷn sy’n gymwys i gofrestru ar y cyrsiau hyn:
- y rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sy’n cael budd-daliadau neu gymorth gan y wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol y wladwriaeth)
- y rheiny sy’n 50 oed neu’n hŷn nad ydynt mewn cyflogaeth lawn amser
Rydym hefyd yn cynnig lle ar y cyrsiau i’r rheiny gydag ychydig o gymwysterau ffurfiol neu ddim o gwbl. Mae croeso hefyd i atgyfeiriadau gan sefydliadau Trydydd Sector ac elusennau sy’n cefnogi unigolion i fynd yn ôl i Addysg.
Mae cyrsiau ar-lein yn unig a byddant yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio Microsoft Teams a/neu Google Classrooms. Bydd angen i chi sefydlu cyfrif google gyda chyfeiriad Gmail er mwyn i chi allu cael mynediad i Google Classrooms.
Rydym yn cynnig cymorth gydag unrhyw anghenion hyfforddi digidol, cymorth dyfeisiau digidol ac ymholiadau digidol.
Ffafrio Dysgu Yn Y Dosbarth …?
Mae Dysgu I Oedolion Caerdydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu hyblyg sydd wedi’u dylunio i gefnogi unigolion i gymryd eu camau cyntaf yn ôl i ddysgu a’u helpu i ddysgu mwy, cymryd rhan mewn hyfforddiant pellach neu gael gafael ar gyflogaeth.
Cynigir y cyrsiau a ariennir gan Lywodraeth Cymru am ddim i ddysgwyr, ac maent yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau TG yn ogystal â chyrsiau sy’n helpu i feithrin sgiliau’r rheini sy’n edrych am waith ym maes gofal plant, lletygarwch neu fanwerthu.
Mae’r canlynol ymysg yr unigolion 16 oed neu hŷn sy’n gymwys i gofrestru ar y cyrsiau hyn:
- y rheiny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ac sy’n cael budd-daliadau neu gymorth gan y wladwriaeth (ac eithrio pensiwn ymddeol y wladwriaeth)
- y rheiny sy’n 50 oed neu’n hŷn nad ydynt mewn cyflogaeth lawn amser
Rydym hefyd yn cynnig lle ar y cyrsiau i’r rheiny gydag ychydig o gymwysterau ffurfiol neu ddim o gwbl. Mae croeso hefyd i atgyfeiriadau gan sefydliadau Trydydd Sector ac elusennau sy’n cefnogi unigolion i fynd yn ôl i Addysg.
Mae cyrsiau ar gael a chanolfannau a lleoliadau amrywiol ledled y ddinas. Mae manylion y lleoliadau wedi’u cynnwys yn llawlyfr isod
Nid oes modd cofrestru ar-lein ar gyfer y cyrsiau hyn, felly dewch draw i un o’n digwyddiadau cofrestru i gael cyfle i drafod pa gwrs sy’n addas i chi.
Diweddaraf ar y Cyfryngau Cymdeithasol ..