Clybiau a chymorthfeydd
Clwb Codio
Ar ddydd Mercher
1pm – 3pm
Canolfan Severn Road
Mae Dysgu Oedolion Caerdydd yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Clwb Codio mewn cydweithrediad â’r Raspberry Pi Foundation!
Yn y clwb, byddwn yn dysgu sut mae defnyddio ieithoedd amrywiol megis Scratch, Javascript a Python a llawer mwy! Dewch i wella eich sgiliau yn un o ddiwydiannau’r byd sy’n tyfu gyflymaf!
Mae hyn yn agored i oedolion 16+ oed. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â 02920 872030.
Mae’r cwrs wedi’i achredu trwy Open Badge, ar yr amod y caiff y modiwlau eu cwblhau.
Syrjeri Digidol
Ar ddydd Gwener
10am – 12pm
Canolfan Severn Road
Problemau gyda’ch ffôn clyfar? Ddim yn deall y diweddariadau newydd? Eisiau dysgu ychydig o driciau a syniadau?
Bellach mae Dysgu Oedolion yn cynnig sesiynau galw heibio digidol wythnosol fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich dyfais. Beth am aros a dysgu ychydig o sgiliau digidol – rydym yn cynnig cyrsiau Dysgu’r Ffordd byr yn ystod y sesiwn all roi gwybodaeth ddefnyddiol ar ddiogelwch ar-lein, bancio ar-lein a llawer mwy.
Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Gwener 10am-12pm.
I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 02920 872030 a gofyn am y Swyddog Digidol.