Mae gan wasanaeth Dysgu i Oedolion Cyngor Caerdydd weithdrefnau ar waith i nodi a, lle bo’n briodol, asesu dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Anogir dysgwyr i ddatgelu unrhyw anghenion dysgu ar adeg cofrestru. Gall dysgwr atgyfeirio ei hun am gymorth ar unrhyw adeg yn y daith ddysgu.
Gellir rhoi cymorth drwy’r canlynol:
- Adnoddau hygyrch,
- Deunyddiau y gellir eu haddasu,
- Gwirfoddolwyr
- Cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain
- Datblygiad proffesiynol i staff.
Cofnodi a thracio
Mae gennym systemau i gofnodi manylion dysgwyr sydd wedi gofyn am gymorth ynghyd â natur y cymorth sydd ei angen, dilyn trywydd y cymorth a gwerthuso’r cymorth a roddir.
Strategaeth Cynorthwyo Dysgwyr
Diben y strategaeth hon yw sicrhau:
- Bod pob dysgwr yn cyflawni ei botensial ac yn deall ei hawl i gael cymorth priodol
- Bod pob aelod o staff yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gweithio i alluogi’r lefelau uchaf posibl o gyfranogiad gan ddysgwyr
- Bod dulliau sy’n cefnogi cydraddoldeb o ran dysgu yn cael eu hannog
- Bod effaith ac ansawdd y cymorth dysgu a ddarperir yn cael eu monitro